Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
7 hp Benz motor car, 1900 - AX 90
Yn ogystal ag arloesi gyda'r injan betrol roedd Carl Benz, yn 1890au, gyda'r cyntaf i lwyddo i gynhyrchu ceir modur ar raddfa eang. Yn 1890 gwnaeth y cwmni gar pedair sedd ag iddo injan 7 marchnerth gymharol fawr. Mae'n hysbys fod y car wedi'i gofrestru yn 1904 gyda'r plât rhif AX 90 gan ryw Ddoctor Cropper o Gasgwent a'i defnyddiai i ymweld â'i gleifion, ond nid oes unrhyw sicrwydd p'un ai ef oedd y prynwr cyntaf. Yn 1910 cyflwynwyd y car i'r Amgueddfa Wyddonol yn Llundain ac yn y flwyddyn ganlynol fe'i cynigiwyd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Er nad oedd wedi bod ar y ffordd fawr am yn agos i drigain a deg o flynyddoedd cafodd ei argyweirio'n fecanyddol yng ngweithdy Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru yn 1978 a llwyddodd i gwblhau ras yr Hen Geir o Lundain i Brighton yn 1978 a 1979.
Roedd Benz yn synied am y car modur fel cerbyd di-geffyl. Mae'r corff, o ran arddull ac o ran ei drefniant eistedd wyneb-yn-wyneb, yn debyg i gerbyd. Un silindr sydd i'r injan a honno wedi'i gosod yn llorweddol yng nghefn y cerbyd gyda chamdro agored, gyriant belt a charn llywio yn hytrach nag olwyn. Mewn cyferbyniad roedd yna eisoes yn 1900 nifer o geir eraill ar y ffyrdd a oedd yn debyg, o ran ymddangosiad a gwneuthuriad mecanyddol, i geir yr oes hon. Nid yw'n syndod, felly, i ddeall fod ceir Benz yn ymddangos braidd yn hen ffasiwn yn. 1900 a gwelwyd gostyngiad, nid yn unig yn eu gwerthiant, ond hefyd yng nghyllid y cwmni. Mae gan y car dri gêr i gyd — dau normal ac un arbennig i ddringo rhiwiau a chaiff y gyriad ei drawsyrru i'r olwynion drwy gyfrwng cyfuniad o feltiau a chadwyni gan roi uchafswm cyflymder o ryw 16 milltir yr awr ar dir gwastad.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.