Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Yn Nhŷ Fy Nhad
Roedd Donald Rodney yn ffigwr amlwg yng Ngrŵp Celf BLK Prydain – cydweithfa o Artistiaid Du Prydeinig ifanc a ddaeth at ei gilydd yn y 1980au i archwilio beth oedd celf, beth allai fod, a sut y gallent ysbrydoli eraill drwy eu gwaith. Dyma un o weithiau olaf Rodney, ac un o'i rai mwyaf adnabyddus. Yn llaw'r artist mae cerflun bach wedi'i wneud o'i groen, a oedd wedi'i dynnu yn ystod triniaeth ar gyfer anemia crymangell. Cyflwr genetig etifeddol ydyw, ac mae'n arbennig o gyffredin ymhlith pobl o dras Affricanaidd neu Garibïaidd. Yn hunanbortread teimladwy, mae'r gwaith yn llawn pŵer amwys. Mae'n cyfleu negeseuon dwys ynghylch profiad a etifeddwyd.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.