Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Argenteuil, Bad (astudiaeth)
Yn yr awyr agored y peintiodd Manet yr astudiaeth hon gan mwyaf, 'en plein air 'yn Argenteuil, i lawr ar hyd Afon Seine o Baris. Mewn tywydd mwll, mae tri chwch hwylio wedi eu hangori gyda'i gilydd a'u mastiau'n adlewyrchu yn y dŵr llwyd. Yn y cefndir mae dau gwch byw hir, un gwyn ac un du, wrth angor ar lan yr afon wrth ymyl rhes o goed, a'r tu hwnt mae simnai fawr sy'n chwydu mwg. Astudiaeth yw'r darlun hwn ar gyfer cyfansoddiad wedi ei osod mewn tywydd heulog, wedi ei ehangu i gynnwys glan yr afon gyda ffigyrau merch a phlentyn ar y gwaelod ar y chwith yn y blaendir. Prynodd Margaret Davies y gwaith ym Mharis ym 1920.
Work was part of the AFA tour (2009-2010): From Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection, National Museum Wales
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.