Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad clyweledol / Audio-visual recording: Neville Howard
“I mi, ymwybyddiaeth o’n pwrpas addysg yw.”
Ganed Neville Howard yn Kingston, Jamaica yn Chwefror 1928.
“Roedd fy mrawd hŷn yn yr RAF yn ystod y rhyfel. Mae gen i gof plentyndod ohonyn nhw’n recriwtio dynion i’r fyddin... Dywedwyd wrthym fod yr Almaenwyr yn taflu babanod lan yn yr awyr a’u dal ar eu bidogau. Doedd yr ifanc ddim yn deall propaganda. Ymwybyddiaeth yw addysg, mae yna ddiffyg o hynny...”
“Fy mam oedd popeth imi ar y pryd. Mama oedd popeth.”
“Fe ddois i yma i ailgodi Prydain ar ôl y rhyfel a phopeth. Roedd hi’n chwalfa yn 1946... Roeddwn i newydd droi’n ddeunaw wrth i’r llong gyrraedd. Fe wnes i adael Southampton gyda dwy siwt...”
“Yna, dechreuais weithio, ac anrhydedd oedd cael gweithio ar y Queen Mary a’r Queen Elizabeth [llongau].”
“Rwy’n hyblyg iawn. Fe es i wneud gwaith i lawr gydag Americanwyr yn adeiladu’r gwaith dur yng Nghaerdydd. Fel peintiwr es i yno... pan fyddai’r weldwyr yn mynd am eu cinio, roeddwn i’n mynd ac... yn mynd ati i weldio. Dyma’r rheolwr yn dweud... mae dy weldio di’n dda... dyma swydd iti... ac fe ges i swydd fel weldiwr.”
“Roeddwn i’n aelod o’r Gymdeithas Theosoffaidd yn Newport Road.”
“S’mo fi wedi gadael fan ’ma ers 1946... Ai Cymro wyf i? [chwardda] Na. Rwy’n cael fy ngalw’n dramorwr [o hyd]. Ar ôl 73 o flynyddoedd!”
“Fe wnes i fagu wyth o blant. Gwnewch yn well. Dim ond trwy esiampl y gall dyn ddysgu dyn. Os ydych chi’n gwybod yn well, yna dylech osod esiampl...”
“Mae cario dig yn beth rhy boenus...”
“Pam rhoi i ni, uwchlaw’r holl bethau byw eraill ar y blaned... y gallu i resymu? Y gallu i ddweud, os nad ydych chi’n ei hoffi, newidiwch bethau.”
“Ocê, rwy’n eich caru chi i gyd.”