Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tirlun â Phorth Bwa
Ar un adeg, eiddo Edward Douglas-Pennant oedd y tirlun hwn. Ef oedd Arglwydd Cyntaf Penrhyn, a etifeddodd yr ystâd ym 1841, gan gynnwys y chwarel lechi, a'r castell. Adeiladwyd ystâd teulu Penrhyn ar arian caethwasiaeth, a'u perchnogaeth o blanhigfeydd siwgr yn Jamaica. Gellir ystyried casgliad celf helaeth y teulu, gan gynnwys y paentiad hwn, fel enillion materol ddaeth yn sgil y cyfoeth hwn. Fe'i paentiwyd gan Adam Pynacker, artist o'r Iseldiroedd a ymwelodd â'r Eidal ynghanol y 17eg ganrif, a gafodd ei ysbrydoli gan y wlad o gwmpas Rhufain.
Roedd Adam Pynacker yn un o grŵp o artistiaid tirluniau o'r Iseldiroedd a aeth i'r Eidal tua chanol y 17eg ganrif lle, fel Richard Wilson ganrif yn ddiweddarach, cawsant eu hysbrydoli gan olau gwresog y Campagna Rhufeinig. Yr Iseldirwyr Eidalaidd yw'r enw cyffredin ar y grŵp. Pynacker oedd un o brif gefnogwyr yr arddull hon.
Bu Pynacker yn yr Eidal o tua 1645 ymlaen, gan ddychwelyd i'r Iseldiroedd erbyn 1652. Mae'r gwaith hwn yn dyddio o gyfnod yn fuan ar ôl iddo ddychwelyd ac mae'n debyg bod hwn yn un o bâr gyda Tirlun Araul gydag Afon a Mynyddoedd Mawr, sydd i'w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Stockholm. Mae'r cyfansoddiad yn cynnwys rhai o'i hoff fotiffau, fel boncyff drylliog yn y blaendir. Mae archwiliad technegol wedi dangos bod Pynacker wedi bwriadu dangos gwartheg yn dod allan drwy'r porth bwa ac o edrych yn ofalus, gallwch weld un o'r gwartheg o hyd. Mae gwaith cadwraeth wedi cael gwared ar yr haenau o farnais afliw i ddangos holl ogoniant lliwiau gwresog y golau Eidalaidd.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.