Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Anhysbys
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Fe wnes i ddod o hyd i'r llun yma ar ôl pori drwy fy ngwaith gyda Mennonites Mecsico, rhyw ddwy fil o roliau o ffilm gafodd eu saethu dros gyfnod o ddeng mlynedd. Dim ond 120 o luniau a gafodd eu cynnwys yn y llyfr. Roedd gwladfa La Honda yn un o'r ychydig rai â thrydan, os oedd gennych arian. Roeddwn i'n ymweld â Frank Klassen a'i wraig, ond dw i ddim yn cofio’i henw hi ar hyn o bryd. Roedden nhw'n ddi-waith, heb unrhyw dir, ac yn dlawd, ac yn bwriadu gwneud eu ffordd i Ganada i chwilio am waith fferm. Gofynnodd ei wraig am sigarét gen i. Fe wnaethon ni ysmygu wrth fwrdd y gegin dan olau’r lamp cerosen. Wedyn aethon ni tu allan a thynnais eu llun nhw wrth i'r lleuad godi." — Larry Towell