Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Llosgi marchwellt
Ar 15 Mai 1917, ysgrifennodd Rothenstein at Ernest Jackson, "I hope to have the 5th drawing finished early this weekand the last next week. I will then come up to town and do what isneedful to the stones". Nid oedd yn hapus gyda rhai o'i weithiau cynnar, gan ddweud fod y llinellau'n ymddangos yn fain a phur symol. Penderfynodd argraffu rhai mewn lliw browngoch yn hytrach na du. Mae'r gweithiau hyn yn syml a chynnil, ac yn wrthgyferbyniad i holl ddwndwr a moderniaeth rhyfel a welir yn llawer o brintiau eraill y gyfres. Mae'r printiau hyn yn dwyn i gof ddelweddau o lafurwyr gwledig a oedd yn gyffredin iawn mewn tirluniau ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mwy na thebyg iddynt gael eu darlunio yn ardal Stroud, Swydd Gaerloyw, lle'r oedd Rothenstein yn byw.
Ganed Rothenstein yn Bradford i deulu Almaenig-Iddewig. Dysgodd ei grefft yn Ysgol Gelf Slade, Llundain a'r Académie Julian, Paris. Yn ogystal â chael ei benodi'n artist rhyfel swyddogol Byddin Prydain ym 1917-1918, bu'n artist i fyddin Canada ym 1919. Ef oedd Pennaeth y Coleg Celf Brenhinol rhwng 1920 a 1935, ac fe'i urddwyd yn farchog ym 1931.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals', gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.