Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Elva Headman
“Fe wnes i addasu pan ddois i yma, mae’n rhaid ichi pan fyddwch chi’n symud o un lle i’r llall...”
Ganed Elva Headman yn Nalgylch Tweedside, ym Mhlwy f Clarendon, Jamaica.
“Fe gefais blentyndod dedwydd, plentyndod dedwydd iawn... mamgu a thad-cu annwyl... twmplenni o’r badell, roeddwn i’n dwli ar dwmplenni o’r badell.”
“Ar fy mhen fy hun ddois i. Fy nhad ddaeth gyntaf, welwch chi, yn y 50au pan roedden nhw eisiau pobl i weithio yma yn y wlad hon. Daeth fy mam gwpl o flynyddoedd ar ei ôl ef gyda fy nau frawd. Roeddwn i’n tua 10 neu 11 [bryd hynny]. Fe benderfynais i nad oeddwn i eisiau dod i Loegr, am flynyddoedd hir wedyn, tua chwe blynedd wedyn, roeddwn i yn fy 20au pan ddois i yma.”
“Fe ddysgais i drin gwallt, felly dyna’r oeddwn i’n ei wneud cyn imi ddod yma, roedd gen i fy nhystysgrif... pan ddois i yma... roedd hi mor oer... doeddwn i ddim am wneud unrhyw waith trin gwallt. Felly mi es i’n nyrs.”
“Pan roeddwn i ym Mryste, roeddwn i’n arfer gweithio yn yr ysbyty seiciatryddol, yn y Fishponds [Ysbyty Blackberry Hill], ac roedd dipyn go lew ohonon ni Jamaiciaid yno hefyd, welwch chi, felly roeddwn i’n ôl reit.”
“Pan wnes i briodi, fe ddois i fyw i Bort Talbot. Roedd e [ei gŵr] yn arfer gweithio yn y dociau sych a phan gaeodd y dociau sych, yna [bu’n gweithio gyda]... Brilliant Press. Er mai llafur rhad oedd ei waith... roedd e bob amser yn gweithio... Pan ddois i yma [Cymru], roeddwn i’n gweithio yn Groeswen yn y ward afiechydon heintus, yn y fan honno ddechreuais i draw ym Mhort Talbot.”
“Fe gawsom ein magu yn Brydeinwyr, pan ddois i yma, roedd gen i basbort Prydeinig, doedd gennym ni’r Jamaiciaid mo’r un cenedligrwydd arall, dim ond Prydeinig.”
“Maen nhw wastad yn dweud mai moesau sy’n bwysig, ‘manners maketh the man’. Os oes gennych chi foesau da, fe allwch chi wneud eich ffordd drwy’r byd i gyd heb geiniog.”