Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Diwedd Rhyfel
Mae milwr o Brydain yn taro'r hoelen olaf gan gau'r drws yn glep ar y rhyfel. Gwelir yn yr adfeilion a'r olion gwaed bod y dinistr yn dal yn fyw yn y cof. Meddai un o feirniaid y cyfnod, ''I fell to completest content in front of William Nicholson's 'End of War'.Nothing could be better than the sentiment and its expression.''
Ganwyd Nicholson yn Newark-on-Trent. Astudiodd yn Ysgol Herkomer, Bushey, ac yna yn Académie Julian, Paris. Cafodd flas ar sawl cyfrwng gwahanol, gan gynnwys paentio ac engrafu. Mae'n bennaf enwog am ei waith arloesol yn dylunio posteri ar y cyd â'i frawd-yng-nghyfraith James Pryde dan yr enw 'J. and W. Beggerstaff'. Datblygodd yn y pen draw yn baentiwr portreadau a bywluniau llwyddiannus.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,' gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.