Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Map
Map yn dangos enwau ponciau Chwarel Dinorwig.
Grisiau neu stepiau ar ochr y mynydd ble fyddai’r chwarelwyr yn gweithio ydi ponc. Roedd y system ponciau yn ffordd effeithiol o weithio’r graig gyda’r chwarelwyr yn gallu gweithio yn ôl ac i fyny ar yr un pryd er mwyn cael at y llechen. Yn Chwarel Penrhyn ym Methesda y dechreuodd y drefn o ddefnyddio ponciau yn ystod y 1780au, , ac wedi hynny dilynodd chwareli llechi eraill yn yr ardal yr un patrwm o waith.
Mabwysiadwyd y drefn yn Dinorwig yn tua 1809, ac erbyn 1830 roedd tua 5 ponc yn cael eu gweithio. Erbyn y 1960au roedd tua 60 ohonyn nhw, yn gorchuddio dros 700 acer o dir. Roedd gan bob ponc enw unigryw. Enwyd ponciau a’r ôl:- Hen dyddynnod e.e. Muriau, Hafod Owen, a Phant y Ceubren; Gwledydd a llefydd e.e. New York, California, Llangristiolus; Enwau personol e.e. aelodau o deulu perchnogion y chwarel, sef teulu’r Assheton Smiths - Veronica, Enid, a Matilda; Digwyddiadau a dyddiadau arbennig e.e. Ponc Wembley a ddechreuwyd ei gweithio tua 1923/4 - yr un flwyddyn adeiladwyd stadiwm Wembley; Enwau Beiblaidd e.e. Toffet.
Yn 2020/21 bu i un o gyn chwarelwr Chwarel Dinorwig fynd ati i gofnodi enwau’r ponciau ar ffurf map, gan weithio efo cyn chwarelwyr eraill er mwyn cofnodi cymaint o enwau a bosib. Ffrwyth eu llafur yw’r map yma.