Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Casglu
Mae treftadaeth Lowri Davies fel Cymraes yn ffynhonnell sylweddol o ysbrydoliaeth iddi. Mae serameg yn bwysig i’w hymdeimlad o hunaniaeth, nid yn unig crochenwaith a phorslen hanesyddol o Gymru mewn casgliadau amgueddfeydd, ond hefyd y crochenwaith a’r straeon cysylltiedig a gafodd eu pasio i lawr gan fenywod yn ei theulu. Yr anrhegion priodas yma, cofroddion o deithiau undydd a rhoddion diolch gan ei hen nain, a ysbrydolodd Casglu. Mae’r casgliad yma o lithoffanau yn cynnwys gwrthrychau domestig y magwyd Lowri o’u cwmpas: tebotau, ffigurynnau, y dresel a etifeddodd, lle tân mewn cegin draddodiadol glyd. Placiau porslen tenau wedi’u modelu mewn cerfwedd yw lithoffanau, fel bod delweddau’n ymddangos pan fydd golau’n disgleirio drwyddynt. Roedden nhw’n boblogaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn cael eu creu yn bennaf mewn ffatrïoedd yn Ffrainc, yr Almaen a Lloegr, ond hefyd yng Nghrochendy De Cymru yn Llanelli.