Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Watkins monoplane Robin Gôch
Deiladwyd yr awyren hon gan Charles Horace Watkins c.1909-12 am gost o £300 ym Maendy, North Road. Mae'n debyg y dechreuodd y gwaith ar adeiladu injan tri silindr, 40 hp ym 1907. Mae stamp dyddiad 1908 ar y llafnau gwthio ond ni ddefnyddiwyd hwn mewn ehediad - defnyddiwyd dau lafn gwthio gwahanol, nad sydd wedi goroesi. Soniodd Horace Watkins iddo hedfan yr awyren o amgylch Caerdydd ar sawl achlysur ond ar Ùl niweidio pen silindr y porth am 1916 mae'n anhebygol y hedfanwyd hi wedyn. Mae corff yr awyren yn agored, wedi'i dynhau gyda weiren biano, gyda chaban peilot wedi' gau yn rhannol. Mae sedd y peilot wedi'i greu o sedd gegin bren. Gwnaethpwyd rhan o gorff yr awyren o bren derw, ond newidwyd hwn am ddarn o ddur. O fewn y caban peilot ceir 'lefel' ar gyfer gwneud darlleniadau lledred, cloc ac amserwr wy tri munud ar gyfer mesur pellter a chyflymder, a voltmeter. Mae rhai goleuadau yn y caban peilot ar gyfer hedfan gyda'r nos.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.