Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tirwedd Cymreig a Dwy Ddynes yn Gweu
Mae'r paentiad yn olygfa ddelfrydig Fictoraidd o'r 'Gymru wyllt' a'i phobl 'ddilychwin'. Dyma olygfa y mae'r artist ei hun wedi'i gosod, yn hytrach na'i gweld. Mae'r fenyw ieuengaf mewn gwisg Gymreig, a oedd mewn gwirionedd yn cael ei gwisgo ar adegau arbennig yn unig. Mae'r ddwy yn gwau sanau o ddarnau o wlân, er bod hyn yn waith ar gyfer y cartref, ac wedi diflannu'n gyffredinol erbyn 1860. Mae'n llawn gwrthgyferbyniad - rhwng oed a harddwch, a rhwng dynoliaeth fregus a ffurfiadau daearegol hynafol, gyda'r lleuad cilgant yn awgrymu cylchdro'r bydysawd.
Fodd bynnag, mae'r gwahanol elfennau yn y peintiad wedi'u seilio ar waith arsylwi manwl. Roedd William Dyce yn gefnogwr pwysig i nod y Cyn-Raffaeliaid i adfywio celf Seisnig drwy wirionedd natur. Mae ei waith mwyaf adnabyddus, Bae Pegwell (1858, Tate) yn Gyn-Raffaelaidd yn ei gofnod o'r creigiau calch ger Ramsgate. Arhosodd Dyce yn Nyffryn Conwy am chwe wythnos yn hydref 1860, lle bu'n edmygu a darlunio 'pob amrywiaeth o olygfeydd Cymreig.' Mae Tirwedd Cymreig â Dwy Ddynes yn Gweu, a beintiwyd wedi iddo ddychwelyd i Lundain, yn tynnu ar y profiad hwn.
Prynwyd gyda chymorth Cronfa Goffa Treftadaeth Genedlaethol, y Gronfa Gelf, ystâd Alan Thomas a nifer o roddwyr preifat, 2010.