Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Bowl
"Mae’r bowlen hon yn rhan o grwp trawiadol o lestri te a choffi crochenwaith caled gyda gwydriad halen gwyn, esiampl gynnar o arfer diwydiant Crochenwaith Swydd Stafford o gastio slip mewn mowldiau plastr. Ymddengys bod y mowldiau cynnar yma wedi cael eu creu gan dorwyr blociau amhrofiadol, ac nid oes llawer o raen ar y dyluniad terfynol. Cymysgedd o herodraeth, myth, dameg, a golygfeydd bob dydd a welwn yn y deg panel ar y bowlen hon: 1) eryr deuben coronog; 2) tair menyw’n yfed te; 3) ffigwr noeth yn cario glôb; 4) gwr mewn clogyn yn dal cleddyf a grawnwin a menyw mewn dillad oes y Tuduriaid; 5) llwynog, gwydd a medaliwn ag arno ben barfog; 6) ceriwb yn trympedi ar gefn llew, gydag alarch yn nofio islaw; 7) dyn a menyw mewn mentyll yn gwisgo capiau fel coronau; 8) menyw noeth yn lledorwedd uwchlaw uncorn; 9) dyn â bwa a ffon yn cerdded dau gi; 10) tarian (chevron rhwng tair fleur-de-lis), carw’n rhedeg ac aderyn. "
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.