Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Anchor
Ni wyddys i sicrwydd beth yw hanes yr angor, ond credir ei bod wedi ei gwneud ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe'i defnyddid ar long ryfel o eiddo'r Llynges, ffrigad fawr yn ôl pob tebyg. Byddai gofyn cael dau gapstan i weindio angor o'r maint yma, sy'n pwyso oddeutu pedair tunnell, y naill ar y dec uchaf a'r llall ar y dec isaf, a'r ddau wedi'u cyd-gysylltu gan siafft gyffredin. Byddai angen cael hyd at 16 o ddynion wrth bob capstan i godi angor.
Yn nawdegau'r ganrif ddiwethaf defnyddiwyd yr angor i ddal bwïau angori yn eu lle ar wyneb y dŵr yn Portland. Roedd un o'r bachau wedi'i blygu nôl yn fwriadol yn erbyn y siafft i rwystro rhaffau a cheblau rhag maglu ynddo. Cafodd yr angor ei defnyddio fel hyn tan 1974 pan godwyd hi gan y Llynges. Mae'r stoc wedi ei wneud o bren a'i glymu a chenglau haearn, tra bo'r bachau a'r siafft wedi'u llunio o haearn gyr.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984