Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Vase
"Yn siâp y fâs hon a’r paentio llwydlun unlliw gwelwn y chwaeth dylunio neo-ramantaidd ddaeth yn boblogaidd yn Ffrainc wedi’r 1760au. Ysbrydolwyd y paentio llwydlun gan gerfwedd isel arddull glasurol. Prin yw’r esiamplau o’r siâp hwn sydd wedi goroesi ac mae dwy fersiwn y gwyddir amdanynt; un â seren chwe phwynt o fewn y siapau hirgrwn ar y caead (sy’n esbonio’r enw vase à étoiles), a’r llall â blodyn wyth petal arni.
Rhiciwyd y marc 'Bl' ar y fâs hon, a briodolir i Jean-Matthieu Blard. Bu farw Blard – oedd yn anseur a tourneur yn gyfrifol am ychwanegu dolenni a thaflu gwrthrychau mewn mowld – ym Mehefin 1772, sy’n awgrymu bod y fâs hon wedi’i dyddio oddeutu 1772."
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.