Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Vase
Cafodd y llestr morwrol ei naws hwn ei lunio gan David Jenkins pan oedd yn 70 mlwydd oed, fel anrheg ar gyfer priodas frenhinol Siôr a Mary ym 1893. Bu David Jenkins yn cadw llygad ar y darnau am ddwy noson wrth iddynt gael eu tanio a’u gwydro. Cafodd ei greu drwy lunio darnau unigol, yna’u rhoi at ei gilydd fel jig-so. Mae’r dechneg dal mewn defnydd heddiw – yn enwedig ar gyfer potiau mawr, trwm.
Mae hanes hir o greu crochenwaith yn Ewenni, Bro Morgannwg. Roedd yr holl ddeunydd crai wrth law – clai coch, deunyddiau gwydro i’w gorffen, cerrig i adeiladu’r odynnau a glo i danio’r crochenwaith. Dros y blynyddoedd, mae 15 crochendy wedi bod yn yr ardal. Dim ond dau sydd yno erbyn heddiw. Mae un teulu, y teulu Jenkins, wedi parhau â’r traddodiad am 8 cenhedlaeth a mwy.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.