Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Yr Ymfudwyr
Ganed Lowinsky yn Llundain ym 1892, i deulu Iddewig cyfoethog a chosmopolitaidd. Roedd Lowinsky yn perthyn i gychwyn i gylch Charles Ricketts (1866-1931) ac roedd dylanwad brwdfrydedd Ricketts tuag at gelfyddyd Gustave Moreau a delfrydiaeth ddisylwedd Burne-Jones ar ei waith cynharaf. Mae'r peintiad olew cynnar hwn yn unigryw ymhlith y gwaith gan Lowinsky sydd wedi goroesi gan ei fod yn ymdrin â phwnc amserol, mewnlifiad ffoaduriaid o Wlad Belg i Brydain wedi i'r Almaenwyr oresgyn Gwlad Belg ym 1914.