Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Clogmaker's workshop
Roedd Thomas (Tommy) James yn un o glocswyr traddodiadol olaf Cymru. Safai ei weithdy ger ei gartref yn Ysgeifiog, Tyddewi. Bu Tommy’n dysgu’r grefft fel prentis am saith mlynedd. Adeiladodd ei weithdy cyntaf yn Croes-goch, cyn symud y cwbl i Ysgeifiog ac ehangu maint y gweithdy ym 1914. Dyna lle bu am ddegawdau yn torri ac yn llunio gwadnau o bren masarn a’r lledrau uchaf i wneud y clocsiau. Roeddent yn arbennig o boblogaidd gyda gweithwyr fferm. Ym marn llawer roeddent yn well na welingtons, ac yn para’n hirach.
Erbyn diwedd y 1950au, roedd y galw am glocsiau yn prysur ddiflannu wrth i esgidiau wedi’u masgynhyrchu ddod yn fwy cyffredin. Arallgyfeiriodd Tommy James, gan ddechrau trwsio esgidiau a chynfasau ar gyfer peiriannau medi a rhwymo. Gyda’i olwg yn pallu, rhoddodd y gorau iddi ym 1960.
Ym 1918 roedd 65 clocsiwr yn gweithio ym Mhrydain. Erbyn dechrau’r 1960au, dim ond hanner dwsin oedd ar ôl.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.