Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Ar Fwrdd Llong Ysbyty
Mae'r printiau hyn yn dilyn taith milwr clwyfedig o'r Ffrynt, trwy'i driniaeth a'i adferiad nôl adref. Yn wreiddiol, roedd y trefnwyr wedi gofyn i'r artist a'r cyn-lawfeddyg Henry Tonks (1867-1937), ymateb i waith y gwasanaethau meddygol. Fodd bynnag, teimlai Tonks nad oedd y papur a ddarparwyd yn addas ar gyfer darlunio, a gwrthododd y cynnig. Comisiynwyd Shepperson i fynd i'r afael â'r pwnc wedyn, ac aeth ati i gynhyrchu cyfres a gafodd dderbyniad gwresog iawn.
Ganwyd Shepperson yn Beckenham, Caint, ac roedd yn artist amlgyfrwng llwyddiannus yn gweithio mewn dyfrlliw a phen ac inc, darluniau a lithograffau. Wedi rhoi'r gorau i astudio'r gyfraith, dilynodd gyrsiau celf yn Llundain a Pharis. Mae'n enwog am y darluniau doniol a gyfrannodd i gylchgrawn 'Punch' rhwng 1905 a 1920.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals', gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 i ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.