Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cweryl
Roedd gan y brodyr Mathieu, Antoine a Louis Le Nain weithdy ym Mharis. Arbenigai Mathieu mewn lluniau o olygfeydd mewnol ô milwyr. Mae rhyw deimlad o lonyddwch i'r rhan fwyaf o gyfansoddiadau Le Nain. Mae hwn yn anarferol am ei fod yn dangos cynnen gas dros gâm sy'n cael ei chwarae ar ben y drwm. Mae'r dyn ifanc ar y chwith yn tynnu dagr a'r milwr hŷn yn tynnu cleddyf wrth droi i wynebu ei wrthwynebydd. Nid yw eu cyfeillion eto wedi sylwi ar y cythrwfl. Daw'r llun o tua 1640. Caiff eu gwaith ei gymnharu â pheintiadau genre Iseldiraidd weithiau, er eu bod yn aml yn garedicach tuag at fywyd y werin, gyda llai o naws foesegol.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.