Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Tywysog Eugene Alexander o Thurn a Taxis (1652-1714)
Daw'r gair modern "tacsi" o enw un o deuluoedd cyfoethocaf Ewrop, y Thurn a'r Taxis. Enillodd y teulu ffortiwn drwy drefnu cludiant post yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cododd Eugene Alexander statws y teulu'n aruthrol. Daeth yn Dywysog yr Ymerodraeth, priododd deulu llywodraethol yn yr Almaen, a dyfarnwyd Urdd y Cnu Auriddo, ac mae'n gwisgo"i gnu yn y darlun hwn. Un o ddisgynyddion Gerard Dou oedd Leermans a dilynai ei arddull fanwl.