Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Pen Dorelia McNeil (1881-1969)
Prynwyd gan Gwendoline Davies ym 1916 ynghyd â'r 'Hunan-bortread'. Mae'n debyg y lluniwyd y gwaith hwn yn Chelsea ym 1911. Cyfarfu John ô Dorelia McNeill ym 1903 am y tro cyntaf trwy ei chwaer Gwen John. Mae'r gwaith hwn yn astudiaeth hynod o ffres a dynnwyd mewn pensel yn syth ar gefndir o bren haenog heb ei baratoi. Mae'r cefndir glas a'r ffrog o borffor golau wedi eu llenwi yn gyflym ac mae lliwiau'r croen a'r gwallt wedi eu hychwanegu cyn i'r lliw cyntaf sychu. Panel bychan John 'A Girl in Purple,' a oedd hefyd yn darlunio Dorelia, oedd y gwaith mwyaf blaengar yn 'An Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction' yng Nghaerdydd ym 1913-14.
Work was part of the AFA tour (2009-2010): From Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection, National Museum Wales