Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Syr William Goscombe John (1860-1952)
Roedd William Goscombe John, a anwyd yng Nghaerdydd, yn un o sefydlwyr Amgueddfa Cymru, ac fe chwaraeodd rôl sylweddol yn adfywio diwylliant Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd hefyd yn gerflunydd toreithiog a oedd yn gysylltiedig â’r mudiad Cerflunwaith Newydd ym Mhrydain. Dechreuodd weithio fel cerfiwr yng Nghastell Caerdydd pan oedd yn bedair ar ddeg oed. Ym 1881, aeth i Lundain, lle dysgodd fodelu naturiolaidd â chlai yn y dull Ffrengig a gyflwynwyd yn ystod y 1870au gan Jules Dalou. Treuliodd flwyddyn ym Mharis wedi hynny, lle treuliodd amser yn stiwdio Rodin. Er mai yn Llundain roedd yn byw yn bennaf, bu ei waith yng Nghymru yn sail i’w yrfa. Mae Caerdydd yn llawn o’i gerflunwaith cyhoeddus, ac ef a fodelodd y medalau sy’n dal i gael eu rhoi gan yr Eisteddfod Genedlaethol (1899). Mae’r portread hwn o 1901 yn ei ddangos wrth ei waith yn ei stiwdio. Roedd Goscombe John hefyd yn gefnogwr brwd i Amgueddfa Cymru, a rhoddodd iddi sawl darn o’i waith ei hun, gan ddylanwadu ar ffurfiad ei chasgliad celf. Mae fersiwn efydd o’r Coblyn, a wnaed ganddo ac sydd i’w gweld yng nghefndir y portread hwn, i’w gweld yng ngerddi Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Artist, cerflunydd a darlunydd a anwyd yn America oedd Simon H. Vedder. Astudiodd yn Efrog Newydd cyn symud i Baris yn ddiweddarach.