Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
La Route aux Bûcherons, Arleux-du-Nord
Mae'r olwg hon o fywyd pentrefol yn un o grŵp o luniau a baentiodd Corot tra’n aros yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc yn ystod gwanwyn a haf 1871. Mae'n adlewyrchu carwriaeth gydol-oes Corot â’r tirlun. Ym mlynyddoedd olaf ei fywyd, trodd Corot at gefn gwlad am gysur mewn ymateb i'r cyd-destun gwleidyddol a chymdeithasol heriol a ddilynodd y Rhyfel Ffranco-Prwsiaidd. ‘Ymddengys fod cyflwr ein gwlad wedi fy ngyrru i gysgodi o dan fwa nef a thô o ddeiliach, ac i chwilio am y llefydd gorau i wrando ar gôr y wig.' Dyma ddarlun cysurlon o draddodiadol o Ffrainc a oedd yn cydfynd â’r gwerthoedd Gweriniaethol cyfoes ac yn help wrth atgyfnerthu hunan-ddelwedd y genedl.
Mae tonyddiaeth y paentiad hwn yn cyferbynnu â thirluniau Corot sydd eisoes yng nghasgliad yr Amgueddfa. Gwelwn ddylanwad traddodiad tirluniol clasurol artistiaid fel Claude yn eglur yn y paentiadau hynny, sy’n cyfleu llewych sgleiniog golau tyner yr hwyrnos. Mae’n ymddangos, ar y llaw arall, fod gan La Route aux Boucherons, fwy yn gyffredin gyda phaentwyr Argraffiadol megis Pissaro, Monet a Sisley. Fel arloeswr paentio yn yr awyr agored o’r 1820au, ysbrydolodd Corot yr Argraffiadwyr gyda’i ddehongliad o olau a natur, ac efallai y gwelwn yma iddo yntau gael ei ysbrydoli ganddynt hwythau yn ei dro.