Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Ddau Foelwyn o Aberglaslyn
Ganed Williams yn Llangefni a bu'n astudio yn y Slade. Pan oedd yn ifanc daeth i adnabod mynyddoedd y Gogledd yn dda, a meddai'n ddiweddarach: 'Pan ddechreuais beintio, roeddwn yn adnabod ochr draw'r mynyddoedd yr oeddwn i'n eu peintio'. Mae'n aelod o'r Academi Frenhinol ac ef yw'r peintiwr tirluniau enwocaf sy'n fyw yng Nghymru heddiw. Dyma'r olygfa tua'r de-ddwyrain o fwlch Aberglaslyn ger Beddgelert tua mynyddoedd y Moelwyn ger Ffestiniog. Prynodd Margaret Davies y darlun ym 1952.