Neidio i'r cynnwys Skip to site map Neidio i'r ddewislen
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Drwy ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n cytuno i dderbyn cwcis dan ein Polisi Cwcis.
Hafan  Casgliadau ac Ymchwil  Casgliadau Arlein
English
English

Casgliadau ac Ymchwil

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Amser Bwyd
  • Ar Eich Stepen Drws: Natur, daeareg ac archaeoleg yng Nghymru
  • Aur o Gymru’r Oes Efydd
  • Casgliadau Arlein
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Cymru Hynafol
  • Erthyglau
  • Ffoaduriaid Cymru
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Holiaduron y gorffennol a’r presennol: ymgysylltu a chasglu drwy Covid
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru
  • Straeon Covid
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Ffotograffiaeth Hanesyddol
  • Adrannau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol

Amgueddfa Cymru

Hafan

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789), Thomas Apperley (1734-1819) a'r Capten Edward Hamilton

Artist: BATONI, Pompeo (1707-1787)

Dechreuodd Syr Watkin Williams-Wynn ar ei Daith Fawr ym mis Mehefin 1768. Gydag ef yr oedd Edward Hamilton, swyddog yn y fyddin a cherddor amatur, a Thomas Apperley o Blas Grono, ger Wrecsam, ei 'athro' a fu gydag ef yn Rhydychen. Ar ôl bod ym Mharis a Fflorens, symudodd y criw i Rufain ym mis Tachwedd, ac yno archebodd Syr Watkin Williams-Wynn beintiadau hanes gan Anton Raphael Mengs a Pompei Batoni. Comisiynodd hefyd y portread hwn gan Batoni, sef peintiwr enwocaf y ddinas. Byddai ei waith yn cael ei edmygu'n arbennig gan enwogion o Brydain, a hwn yw ei bortread gorau o'r 'Daith Fawr'. Mae Syr Watkin yn sefyll ar y chwith â chreon yn ei law a chopi o ffresgo gan Raphael. Wrth y bwrdd mae Apperley yn tynnu sylw ei noddwr at ddarn o 'Ddwyfol Gân' Dante. Mae Hamilton yn dal ffliwt ac yn pwyntio'n edmygus at yr arwyddion o ddysg llenyddol Apperley. Mae cerflun damhegol o 'Peintio' yn y gilfan y tu ôl iddynt yn pwysleisio hoffter y tri dyn at y celfyddydau. O Rufain aeth Syr Watkin Williams-Wynn i Napoli cyn ddychwelyd adref drwy Fenis ym mis Chwefror 1769. Yn ystod ei oes byddai'r darlun hwn yn crogi yn Wynn House, ei gartref yn Sgwâr St. James yn Llundain.

Sir Watkin Williams-Wynn set out on his Grand Tour in June 1768. He was accompanied by Edward Hamilton, a cavalry officer and amateur musician, and Thomas Apperley of Plas Grono, near Wrexham, his 'governor' who had been with him at Oxford. After visiting Paris and Florence the party arrived in Rome in November, where Sir Watkin ordered history paintings from Anton Raphael Mengs and Pompeo Batoni. He also commissioned this portrait from Batoni, who was the most celebrated painter in the city. His work was particularly appreciated by British notables, and this is his finest 'Grand Tour' portrait. Sir Watkin stands on the left holding a crayon and a copy of a Raphael fresco. At the table, Apperley draws his patron's attention to a passage from Dante's 'Divine Comedy.' Hamilton, a flute in his hand, gestures admiringly to Apperley's display of erudition. An allegorical statue of 'Painting,' located in the niche behind, emphasises the three men's love of the arts. From Rome Sir Watkin went to Naples, before returning home via Venice in February 1769. During his lifetime, this painting hung at his London residence, Wynn House, St James's Square.

Sir Watkin Williams-Wynn, 4th Bt., Thomas Apperly 1768-1762
Delwedd: © Amgueddfa Cymru - National Museum Wales Lawrlwytho (ar gyfer eich defnydd personol yn unig)

Defnydd Personol - gall y person sy'n lawrlwytho'r delweddau hyn eu defnyddio at ddibenion ymchwil, astudio neu greu adnoddau addysg. Ni cheir defnyddio'r delweddau at ddibenion masnachol.

Ar gyfer pob defnydd a fformat arall cysylltwch â delweddau@amgueddfacymru.ac.uk

Beth yw Defnydd Personol?

Pwnc

Celf

Rhif yr Eitem

NMW A 78

Creu/Cynhyrchu

BATONI, Pompeo
Rôl: Artist
Dyddiad: 1768-1772

Derbyniad

Purchase, 5/2/1947

Mesuriadau

h(cm) frame:321.3
w(cm) frame:221
d(cm) frame:160

Techneg

oil on canvas
Techniques (fine art)
art dept - fine
Fine Art - painting

Deunydd

oil
canvas

Lleoliad

Gallery 04

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Categorïau

Painting Fine Art Named portrait Music Military uniform Old Master
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Celf

Sir Watkin Williams-Wynn, 3rd Bt.

Artist: VERTUE, George
Artist: DAHL, Michael (after)
NMW A 29931
Mwy am yr eitem hon
Sir Watkin Williams-Wynn and Lady Henrietta
Celf

Sir Watkin Williams-Wynn (1749-1789) a Henrietta (Somerset), y Foneddiges Williams-Wynn (1748-1769)

Artist: REYNOLDS, Joshua (1723-92)
NMW A 12965
Mwy am yr eitem hon
Colonel Thomas Aubrey (1740-1814)
Celf

Y Cyrnol Thomas Aubrey (1740-1814)

Artist: HONE, Nathaniel (1718-1784)
NMW A 101
Mwy am yr eitem hon
John Parry (1724-1799)
Celf

John Parry (1724-1799)

Artist: BRITISH SCHOOL, 18th century / YSGOL BRYDEINIG, 18fed ganrif
NMW A 111
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales
Noddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government
525774

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ein Gwaith

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Addysg
  • Blog
  • Gweithio gydag eraill
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Siop Ar-lein

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Y Wefan
  • Ein Cefnogi
  • Llogi Cyfleusterau

Ymunwch â Ni

  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Cymryd Rhan
  • Cysylltwch â ni
  • English
× ❮ ❯
Sir Watkin Williams-Wynn, 4th Bt., Thomas Apperly 1768-1762
© Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
  • Sir Watkin Williams-Wynn, 4th Bt., Thomas Apperly 1768-1762