Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Vernesta Cyril
“Rwy’n edrych, yn sefyll ar lan y môr ac yn gweld... yr awyr a’r môr yn cwrdd, ac fe fyddwn i’n meddwl, ‘Tybed beth sydd y tu hwnt i’r fan yna?’”
Ganed Vernesta Cyril OBE yn St Lucia yn 1943, ac mae hi wedi treulio mwy na 30 mlynedd yn gweithio mewn ysbytai yng Nghymru. Enillodd wobr Bydwraig y Flwyddyn yn 2006 a derbyniodd OBE am ei chyfraniadau i’r GIG.
“Wel, rwy’n meddwl ei fod yn gyfnod eithaf hapus... nofio yn y glaw... yn gweld pobl yn palu iamau ac yn codi’r ffrwythau bara a’r rambwtan, yn gwylio’r ystlumod ar y coed rambwtan, cnau cashiw... Roeddwn i bob amser eisiau anelu am raddau A a B [yn yr ysgol]... roedd yn rhaid inni ddysgu’r holl ganeuon a phan roedd hi’n ben-blwydd ar y Frenhines roedden ni’n gorfod mynd allan i’r sgwâr gyda’n baneri a dweud, wyddoch chi, y dywediad ‘Bendith Duw ar ein Brenhines Elizabeth’... roeddwn i eisiau bod yn athrawes neu’n nyrs.”
“Daeth fy chwaer yma o fy mlaen i... roedd fy modryb yma, ac fe anogodd fy mam: ‘O, anfona hi drosodd, fe gaiff wneud [ei harholiadau] yma.’ Roeddwn i’n meddwl am y cwbl fel antur, roeddwn i’n dod i ddysgu.”
“Fe wnes i weithio am gwpl o fisoedd cyn imi fynd i nyrsio. Rwy’n credu mai ysbyty TB oedd e bryd hynny, fe wnaethon nhw ei newid yng Nghefn Mably [Caerffili], dim ond arsylwi oeddwn i... Roedden nhw am i mi sefyll arholiad eto... fe ddois i yma, fe ges i wahoddiad... doedd dim rhaid imi gael fy anfon gan fy llywodraeth; felly, fe safais i’r arholiad... A dyna ddechrau ar fy ngyrfa nyrsio.”
“Rwy’n meddwl, i mi, roeddwn i’n dod o hyd i ffyrdd i gadw’n brysur i dynnu fy meddwl oddi ar y ffordd y cawn fy nhrin... Anghofiaf i fyth y claf a ddywedodd wrthyf i, a hithau’n wael yn ei gwely, ‘dwyt ti ddim am roi dy ddwylo duon arnaf i’, a s’mo Peter [gŵr Vernesta] erioed wedi anghofio, ‘wnawn ni ddim gweithio gyda thi, s’mo ni moyn dyn Du yn gweithio yma.’”
“Roeddech chi’n cael eich trin yn elyniaethus, hyd yn oed yn eich gwaith... fe wnaeth imi fod yn berson cryf.”