Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Portread o Robert Howell Vaughan, tua 60 oed
Bu Robert Howell Vaughan yn gweithio am gyfnod fel llawfeddyg yng Nghaer. Ym 1783 etifeddodd Hengwrt a Nannau ym Meirionnydd gan olynu ei frawd afradlon. Dechreuodd ailadeiladu'r tŷ ym 1788 a chafodd ei wneud yn farwnig ym 1791. Yma mae'n gwisgo gwisg ffansi Van Dych a bathodyn Cymdeithas Dderwyddol Môn, cymdeithas yfed ac elusennol i foneddigion oedd yn cwrdd ym Miwmares.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.