Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Barod i forio
Mae'r llong yma bron yn barod i fynd i ryfel. Gyda'r gweithwyr yn gorffen eu tasgau ac eraill yn cludo nwyddau ar ei bwrdd, mae'r dociau yn frith o ddynion fel morgrug dan anferthedd y llong. Dyma ddisgrifiad cyhoeddiad y 'Western Front' o'r olygfa, ''It looks like chaos, but everything works up perfectly to the moment when she casts off, free of the seas.''
Muirhead Bone oedd yr artist rhyfel swyddogol cyntaf. Roedd yn enwog am greu darluniau â manylder ffotograffig ac ymhlith darlunwyr amlycaf Prydain. Yn ogystal â chofnodi'r rhyfel ar y Ffrynt, treuliodd Bone gyfnod ar lannau'r Clyde yn yr Alban, yn cofnodi bwrlwm y diwydiant adeiladu llongau yno. Byddai'n clymu llyfr nodiadau i'w law er mwyn braslunio. Mae'r printiau yn dangos camau gwahanol y broses adeiladu, yn ogystal â golygfeydd o'r iard, un ohonynt o ben craen. Dywedodd un gohebydd fod ei gyfres, ''delights in the intricacies of scaffolding and mechanical contrivances'.' Ymddangosodd y lluniau hyn yng nghyhoeddiad y Swyddfa Ryfel hefyd, 'The Western Front', cyfrol II, 1917.
Brodor o Glasgow oedd Bone, ac astudiodd yn ysgol gelf y ddinas honno. Ymgartrefodd yn Llundain ym 1901. Bu'n artist rhyfel swyddogol rhwng 1916 a 1918, ac yn artist swyddogol y Morlys rhwng 1939 a 1946. Fe'i urddwyd yn farchog ym 1937.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,' gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.