Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Rhaeadrau Terni
Ar ôl bod yn gweithio yn Rhufain, lle bu'n astudio gyda Joseph Vernet, ymsefydlodd Patch yn Fflorens ym 1757. Arbenigai ar grwpiau digriflun o ymwelwyr, fel Syr Watkin Williams-Wynn a'i gyfeillion. Byddai Patch hefyd yn peintio golygfeydd o fannau a oedd yn boblogaidd ymhlith ymwelwyr. Cafodd y rhaeadrau trawiadol yn Terni, ger Perugia, sy'n 200 metr o uchder eu torri ym 272 CC gan Curius Dentatus, concwerwr y Sabiniaid.