Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
I’r Ffosydd
Darluniau 'sy'n cyfleu ysbryd ein byddin newydd ifanc' - dyna ddisgrifiad un newyddiadurwr o'r printiau hyn, sy'n dangos milwyr yn hyfforddi ac ar faes y gad. Mae'n debyg y dewiswyd Kennington i fynd i'r afael â'r pwnc hwn gan ei fod yntau wedi listio gyda 13eg Bataliwn (Kensington) Catrawd Llundain ac wedi ymladd ar Ffrynt y Gorllewin, Ffrainc, rhwng 1914 a 1915. Cafodd ei glwyfo a'i ryddhau am resymau meddygol ym 1915. Fel y rhan fwyaf o waith celf yn ystod cyfnod y rhyfel, nid portreadu'r gyflafan a'r drasiedi fawr oedd y nod. Yn hytrach, mae Kennington yn clodfori'r milwr cyffredin.
Ganed Kennington yn Chelsea, Llundain, yn fab i arlunydd portreadau amlwg. Astudiodd yn Ysgol Gelf Sant Paul, Ysgol Gelf Lambeth ac Ysgol City and Guilds. Cafodd ei benodi'n artist rhyfel swyddogol rhwng 1917 a 1919 a rhwng 1940 a 1943, lle bu'n portreadu morwyr ac awyrenwyr.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bortffolio 'The Great War: Britain's Efforts and Ideals,' gyfres o 66 print lithograffig eu comisiynu gan y Weinyddiaeth Wybodaeth ym 1917 I ysbrydoli'r cyhoedd, oedd wedi cael digon ar ryfel, a'u hannog i ymroi i'r Frwydr.