Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Newbridge war memorial
Cofeb fechan, wedi'i chodi o garreg Portland ym 1936, i gofio am saith deg naw o ddynion o Drecelyn a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac sydd â'u henwau wedi'u cofnodi ar blac efydd ar ochr chwith y gofeb.
Yn nes ymlaen, ychwanegwyd ail blac, ar ochr dde'r gofeb, i gofnodi enwau 37 o ddynion lleol eraill a fu farw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. O dan ddyddiadau'r ddau ryfel, cerfiwyd y geiriau: 'At the going down of the sun and in the morning we will remember them'.
Rhoddwyd y gofeb i'r Amgueddfa ym 1995 pan agorwyd gardd goffa newydd yng nghanol Trecelyn. Cafodd ei hailgysegru ar 19 Hydref 1996 gan Archesgob Cymru.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.