Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Aurora
Bu Henry Sandbach, masnachwr o Lewrpwl, yn Rhufain ym 1838. Yno daeth ei wraig Margaret, wyres i William Roscoe, y casglwr o Lerpwl ac un o noddwyr cynnar Gibson, yn gyfeillgar iawn â'r cerflunydd. Yn ddiweddarach, cododd teulu Sandbach oriel yn eu cartref newydd, Hafodunos, i ddangos cerfluniau Gibson. Ym 1842 comisiynodd Henry Sandbach y ffigwr hwn i'w wraig. Dyma sut mae Gibson yn ei ddisgrifio 'wele gennad y dydd, Aurora, duwies y Bore...newydd godi o'r môr a seren loyw Lucifer yn disgleirio ar ei thalcen - y naill droed ar y tonnau a'r llall braidd yn cyffwrdd â'r ddaear...Mae mewn gwisg gyfoethog dryloyw a'i haelodau cain yn rhydd a dilyffethair...mae Aurora wedi llenwi'r ddau lestr sydd yn ei dwylo tyner â gwlith pur y mor, ac wrth fynd yn ei blaen ar adain ysgafn - mae'n taflu cipolwg tyner ac urddasol dros y bydysawd gan ollwng diferion fel perlau dros y ddaear er mwyn i'r blodau adnewyddu ac ehangu yn haul y bore.