Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letter
Casgliad o lythyrau [1942-1943] at y Dr Iorwerth C. Peate yn dilyn ei apêl radio am wybodaeth am y dull traddodiadol o grasu bara etc. oddi wrth Cassie Davies (y Bala), D. Stedman Davies (Llandrindod), Anne M. James (Llanafan), Annie Davies Jones (Llanfair, Harlech), Evan Jones (Blaenau Ffestiniog), G. Jones (Talgarth), A. Lewis (Caerdydd), Elinor Parry (Wigan), A.M. Peate (Lanbryn-Mair), B.M. Williams (Swinton, Yorks.) a K. Williams (Penrhyndeudraeth).
Ceir manylion diddorol yn Llsgr. 820 am nifer o hen chwaraeon yn Nyffryn Conwy megis coitio, cuddio carreg, hela llwynog etc. Trafodir hen ddodrefn yn bennaf yn Llsgrau MS 821 a 823. Ceir pedwar llythyr Saesneg ymysg y casgliad yma.