Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Carronade made at Crawshays works, Cyfarthfa, 1802
Roedd llawer o weithfeydd dur Cymru yn cynhyrchu pelenni canon, a nifer llai yn cynhyrchu canonau.
Math o ganon oedd y carronade, a ddyfeisiwyd gan y Scottish Carron Iron Company ddechrau'r 1770au. Roedden nhw'n ysgafnach na chanonau cyffredin, gyda phellter tanio o ryw 500m. Fel pob canon, byddai carronade yn cael ei lwytho â phowdwr gwn a phelen, neu nifer fawr o belenni mysged.
Byddai'r carronade yn cael ei ddefnyddio ar longau o bob math – gan gynnwys y Llynges Frenhinol, yr East India Company, a llongau cludo caethweision – ond roedden nhw'n arbennig o boblogaidd ar longau masnach. Oherwydd y pellter tanio llai, byddai carronade yn aml yn cael ei ddefnyddio i danio pelenni mysged.
Cynhyrchwyd y carronade haearn bwrw hwn yng Ngweithfeydd Cyfarthfa. Y perchnogion oedd y Teulu Crawshay, ac erbyn 1802 dyma’r gweithfeydd haearn mwyaf yn y byd.
Cynhyrchwyd y carronade penodol hwn ar gyfer llong fasnach, neu i'w allforio dramor, gan nad yw symbol traddodiadol Llynges Prydain arno. Ond cafodd y carronade erioed ei werthu, a cafodd ei ddefnyddio yn y pen draw fel addurn yng ngardd un o'r teulu Crawshay.
Arno mae'r arysgrifiad: 18 P (gwn 18 pwys) P 1802 (profwyd yn 1802) Charge K Proof (pwysau'r powdwr gwn a ddefnyddiwyd i brofi'r gwn) Charge service (pwysau'r powdwr gwn gweithredol) 9-3-14 (pwysau'r gwn – 9 canpwys, 3 chwart, 14 pwys – tua 502kg)
[Disgrifiad wedi'u datblygu ar y cyd ag aelodau Chai & Chat (CGG Abertawe), Gorffennaf 2024]
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.