Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Plentyn (Lliwiau Glas)
Ganed yr arlunydd yng Ngogledd Cymru a'i hyfforddi yn Wrecsam, Llundain a Glasgow. Mae Roberts yn gosod pethau sinistr - fel byrddau mortiwari ag arnynt gyrff o dan amdoeau - yn erbyn patrwm o stribedi lliw. Caiff y lluniau eu paentio mewn ffordd gynhyrfus a chythryblus mewn paent olew sydd â naturioldeb grymus, o edrych arno o bell, yn erbyn lliw acrylig y cefndir sydd fel pe bai'n dirgrynu. Pan holwyd hi ym 1995 pa arlunydd, byw neu farw, yr hoffai sgwrs ag ef neu hi, Velasquez oedd yr ateb.