Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Marion ac Atlas yn y gawod, Rio de Janeiro
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Yn 2008, cafodd fy mhlentyn cyntaf ei eni. Hyd at y pwynt hwnnw, roedd fy ffotograffau fel 'ffotograffydd rhyfel' wedi bod yn cyfleu profiadau eraill mewn mannau pell i ffwrdd. Nawr, am y tro cyntaf, cefais fy hun yn tynnu lluniau fy nheulu fy hun... fy mhrofiad fy hun. Doedd hi ddim yn benderfyniad ymwybodol. Roedd yn ymateb eithaf organig a chyffredin, sef ymateb unrhyw dad newydd. Nid oedd yn yn fy nharo i fod gan y ffotograffau hyn unrhyw beth i'w wneud â’m 'gwaith'. Ond erbyn hyn dw i'n sylweddoli mai gwaith fy mywyd i oedd y lluniau hyn mewn gwirionedd ac mai dim ond paratoad oedd pob ffotograff yr oeddwn wedi'i wneud tan hynny er mwyn tynnu’r ffotograffau hyn o fy nheulu." — Christopher Anderson