Photograph (print) - Casgliadau Arlein | Museum Wales
Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Gweld ein Polisi Cwcis
Gosodiadau

Gosodiadau Cwcis

Angenrheidiol

Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.

 

Cwcis sy'n mesur defnydd y wefan

Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.

 

Cwcis sy'n helpu gyda chyfathrebu a marchnata

Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.

 
 
Gweld ein Polisi Cwcis
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Photograph (print)

Ffotograff o Mr Hugh Richard Jones a gwraig y tu allan i Dŷ’r Peiriannydd yn y Gilfach Ddu (cartref Amgueddfa Lechi Cymru erbyn hyn). Credir mai’r wraig yw Catrin Jones, llysfam Hugh Richard Jones. Bu farw mam Hugh Richard Jones pan oedd ef yn blentyn ifanc, ac ailbriododd ei dad wedi hynny.

Dechreuodd Mr Hugh Richard Jones (a oedd yn cael ei adnabod fel Hugh Rich) weithio yn Chwarel Dinorwig yn Ebrill 1926 (15 oed) fel prentis ffitar. Yn ddiweddarach fe’i dyrchafwyd yn Brif Beiriannydd Chwarel Dinorwig a daliodd y swydd honno hyd nes i’r chwarel gau yn Awst 1969. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai’r Gilfach Ddu, a daeth ei freuddwyd o ddiogelu’r gweithdai yn realiti pan agorwyd yr amgueddfa gyntaf ym mis Mai 1972. Penodwyd Hugh Richard Jones yn Guradur cyntaf Amgueddfa Lechi Cymru a bu’n gweithio yno hyd ei ymddeoliad ym mis Mawrth 1981.

Bu Hugh Richard Jones yn byw yn Nhŷ’r Peiriannydd ar safle’r Gilfach Ddu rhwng 1928 a 1936 gyda’i dad (Joseph Jones) a’i deulu. Roedd Mr Joseph Jones (tad Hugh Richard Jones) yn gweithio fel fforman ar Reilffordd Padarn ac yn byw yn Nhŷ’r Peiriannydd rhwng 1928 a chanol y 1950au.

Photograph (print)
Delwedd: Trwy garedigrwydd Amgueddfa Cymru. © Anhysbys. Os oes gennych unrhyw wybodaeth all ein helpu i ddod o hyd i ddeiliad yr hawlfraint, e-bostiwch delweddau@amgueddfacymru.ac.uk
 Chwyddo

Pwnc

Diwydiant

Rhif yr Eitem

2023.12/7

Mesuriadau

Meithder (mm): 81
Lled (mm): 56

Categorïau

slate 20th century, mid Gwynedd (county name)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Diwydiant

Deiniolen Juvenile Lodge of Oddfellows, photograph

2007.19/4
Mwy am yr eitem hon
Diwydiant

Caernarvon, photograph

2018.43/5
Mwy am yr eitem hon
Diwydiant

Caernarvon, photograph

2018.43/4
Mwy am yr eitem hon
Diwydiant

Blue Peris house, Dinorwig, photograph

2001.216/10
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Llyfrgell Luniau
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯