Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Monsieur Jules Dejouy (1815-1894)
Cafodd y Portread o Monsieur Jules Dejouy ei baentio gan Edouard Manet ym 1879. Roedd Jules Dejouy (1815-1894) yn gyfreithiwr llwyddiannus, wedi ei benodi i’r Llys Ymerodrol yn Ffrainc ym 1849 ac yn aelod o’r Conseil de l'Ordre. Roedd hefyd yn gefnder hŷn i Manet ac yn ffigwr pwysig ym mywyd yr artist. Yn y portread hwn, mae gwaith brwsh llac, digymell Manet yn mynegi ei hoffter o Dejouy, ac yn dangos bywiogrwydd, deallusrwydd a haelioni cymeriad yr eisteddwr. Yn ei ddillad cyfreithiwr gyda bwndel o bapurai dan un fraich, ymddengys fod Dejouy wedi ei ddal ynghanol diwrnod prysur yn y llysoedd.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.