Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Hindu image
Ganesha yw Arglwydd llwyddiant, addysg, gwybodaeth, doethineb a chyfoeth. Yn 2002, gwahoddodd Pwyllgor Puja Cymru gerflunwyr o Kolkata i ddod i Gymru i greu delwau ar gyfer gŵyl Durga Puja. Creodd yr artistiaid Sri Nimai Chandra Pal a Sri Bishwajit Chakraborty bum delw: Ganesha, Lakshmi, Saraswati, Kartikeya a Durga. Yn 2009, rhoddodd Pwyllgor Puja Cymru'r delwau i’r Amgueddfa.
Dyma’r Ganesha cyntaf i gael ei greu yng Nghymru. Defnyddiwyd cymysgedd o glai Cymreig a chlai afon Ganga yn India. Addolwyd y ddelw yng Ngŵyl Durga Puja Caerffili rhwng 2002 a 2008. I ddechrau, roedd Pwyllgor Puja Cymru yn addoli lluniau ar gynfas. Yna, roedden nhw’n mewnforio delwau clai o’r Dduwies Durga a’i theulu o Kolkata. Ond, roedd aelodau’r pwyllgor yn credu ei bod yn bwysig i’r delwau gael eu creu yng Nghymru er mwyn dangos mai Hindŵiaid Cymreig ydyn nhw.
Dechreuodd y cerflunwyr gyda ffrâm bren. Yna, defnyddiwyd gwellt a haenau tenau o ddefnydd a chlai i greu’r siâp. Sychwyd y clai cyn paentio, gwisgo ac addurno’r ddelw. Cafodd delwau o weddill teulu Durga eu creu hefyd, yn ogystal â Ganesha. Cymerodd dair wythnos i’r artistiaid greu’r teulu. Un o gamau pwysicaf y broses yw Chakkhu Daan – paentio’r llygad. Wrth wneud hyn, mae’r cerflun yn troi’n wrthrych sanctaidd.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.