Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Chevrolet mobile shop, 1929 - TX 8259
Adwaenid y cerbyd hwn fel y `stordy teithiol' yn wreiddiol, ond bellach cyfeirir ato fel 'siop symudol'. Fe'i adeiladwyd yn arbennig yn. 1929 i Mr. Winston Howard o Wenfô, Caerdydd ar gyfer ei fusnes gwerthu nwyddau groser a chynhyrchion llaeth i bentrefi a thai anghysbell ym Mro Morgannwg. Hwyrach mai dyma'r siop symudol gyntaf yng Nghymru ac roedd yn cael ei defnyddio'n gyson chwe diwrnod yr wythnos bob wythnos o'r flwyddyn hyd 1969.Yn ystod y cyfnod hwnnw teithiodd y cerbyd dros hanner miliwn o filltiroedd ac anaml iawn y byddai'n torri i lawr. (Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984).