Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Peter Cyril
“Roedd yn beth newydd i mi, gweithio yn yr eira ac ati. Daro, roedd hi’n oer wrth fynd i’r gwaith yn y bore.”
Ganed a magwyd Peter Cyril yn St Lucia yn y Caribî a daeth i Brydain yn 21 mlwydd oed. Gweithiodd ar y rheilffyrdd am y rhan fwyaf o’i fywyd.
“Roeddwn i’n un o ddau gefnder yn byw gyda fy nhaid a nain.”
“Roedd tyfu lan yn iawn, roedd gen i fy nhaid a nain. Roedd fy nain yn dal yn fyw, yn 103...”
“Rwy’n cofio’r fordaith, roedd hi’n iawn, roedd gen i fachgen [roeddwn i’n] edrych ar ei ôl, roedd e’n 14 a minnau’n 21. Yn 1961 roedd hynny.”
“Fe es i wneud argraffu, ac yn y maes hwnnw yr arhosais i. O waith argraffu, fe es i swyddfa fawr yn Newcastle, Voice Printing, cyn imi ddod yma.”
“Roeddwn i’n ifanc, yn ei chanol hi’n chwarae criced, pêl-droed... Pan ddois i yma, fe geisiais gael fy hun i mewn i glwb, yn yr YMCA, ond doedden nhw ddim am fy nerbyn i yno.”
“Y prif reswm dros ddod drosodd yma oedd i gael gwaith... Fe ges i swydd ar y rheilffyrdd gan mai dyna’r unig le roedden nhw’n caniatáu imi weithio...”
“Roeddwn i eisiau mynd i’r coleg un diwrnod yr wythnos. Fe ddwedodd e [y bos] na allai ganiatáu’r amser imi oddi wrth fy ngwaith. Ac roedd angen yr arian arnaf i, doedd gen i ddim help, felly fe wnes i jest mynd nôl i weithio.”
“Pan ddois i drosodd yma roeddwn i’n Brydeiniwr, ond wnân nhw ddim cyfaddef hynny... maen nhw’n eich casáu’n ddwfn...”
“Mae fel disgyn mewn potyn a methu dod allan ohono... rwyf wedi bod yma ers dros ddeugain mlynedd.”
“Mae’n bwysig i bobl wybod ein hanes, gwybod amdanom ni, am yr hyn a ddigwyddodd i ni. Fe ddylen nhw ddysgu’r ieithoedd gan ein bod ni’n siarad llawer o dafodiaith, patois, a Saesneg. Mae’n bwysig iawn eu bod nhw’n gwybod.”