Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
"Y Lleuad yn Sain Ffraid" Sgomer
Yn ystod arosiadau dros yr haf ar ynys Sgomer, cafodd Ray Howard-Jones ei hysbrydoli gan natur, ysbrydolrwydd a dirgelwch a chwedlau Celtaidd. Creodd gorff enfawr o waith ar yr ynys hon, yn aml yn paentio golygfeydd arfordirol a morluniau ar bapur. Yn y gwaith hwn, mae’n edrych tuag at Sain Ffraid, gan ddarlunio'r lleuad oren yn arnofio dros y tir mawr. Mae ei harddull argraffiadol a’i defnydd rhyfeddol o liw yn gwneud yr olygfa beintiedig hon yn debyg i’r gwaith Argraffiadol cyntaf, Impression, soleil levant gan Monet, o 1872 sydd i’w weld yn y Musée Marmottan Monet ym Mharis.