Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Elizabeth, Viscountess Bulkeley (1757-1826) as Hebe
Roedd Elizabeth Harriet Warren (1759-1826) yn ferch i Syr George Warren o Poynton, Swydd Gaer, yr oedd Romney wedi ei beintio ym 1796 fel rhan o grŵp teuluol. Aeth i'r Eidal ym mis Mawrth 1773, gan ddychwelyd i Lundain ym mis Gorffennaf 1775, pan sefydlodd ei hun yn gyflym fel prif gystadleuydd Reynolds a Gainsborough.
Mae'n debyg bod y portread hwn wedi ei gomisiynu i nodi ei phriodas, a ddigwyddodd ym mis Ebrill 1777, pan briododd Thomas, 7fed Is-iarll Bulkeley o Fiwmares (1752-1822). Ag yntau'n brif dirfeddiannwr Ynys Môn, roedd yn AS dros y sir o 1774 hyd 1784, pan wnaed ef yn arglwydd Prydeinig. Eisteddodd hi i Romney ar bum achlysur yn ystod mis Mai 1776. Yna aeth yr arlunydd yn wael, a bu'r eisteddiad olaf ym mis Rhagfyr. Gweithiodd yn ddyfal ar y cyfansoddiad, ac mae brasluniau ar ei gyfer mewn sawl casgliad.
Darlunnir y testun fel Hebe, cludwraig cwpanau'r duwiau a duwies harddwch ieuenctid. Ei nodweddion traddodiadol yw cwpan neu yst?n ac eryr, sy'n cynrychioli ei thad Sews. Roedd yn bersona alegorïaidd poblogaidd ar gyfer portreadau o ferched ifanc yn y ddeunawfed ganrif. Mae'r gwaith hwn yn dangos 'y gwych a'r gwachul' yn arddull Romney, y gwnaeth Flaxman eu cymharu â 'thân a difrifoldeb basgerfiad Groegaidd'. Mae'r rhaeadr fynyddig a'r lliwiau difrifol, monocrom bron hefyd yn arwain rhywun i'w cymharu â gwaith Henry Fuseli.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.