Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Goroeswyr damwain hofrennydd Awyrlu Irac ar Fynydd Sinjar yn gorwedd ar fwrdd hofrennydd achub ar ei ffordd i Gwrdistan Irac
Teitl llawn: Goroeswyr damwain hofrennydd Awyrlu Irac ar Fynydd Sinjar yn gorwedd ar fwrdd hofrennydd achub ar ei ffordd i Gwrdistan Irac. Ymhlith y rhai a oroesodd mae sifiliaid Yazidi, Cwrdiaid a phersonél Byddin Irac, a newyddiadurwyr. Roedd yr Yazidis yn ffoi rhag erledigaeth eithafwyr Islamaidd a oedd wedi meddiannu eu trefi genedigol yn nhalaith Ninevah yn Irac. Ar dir uchel Mynydd Sinjar, daeth miloedd o Yazidis o hyd i ddiogelwch rhag ISIS, ond hefyd y risg o farw o newyn a syched. Roedd yr hofrennydd achub cyntaf wedi cael ei anfon i achub y sifiliaid dan warchae rhag y dynged druenus honno, ond fe blymiodd i ochr y mynydd yn fuan ar ôl codi i’r awyr.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.