Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Trachwant
Yn y cerflun efydd hwn gan Edith Downing, a aned yng Nghaerdydd, mae gwraig o faint byw bron, yn rhannol noeth yn ei chwrcwd ar y llawr, yn gafael mewn bagiau arian ag un llaw ac yn ymestyn allan yn farus am fwy o arian gyda’r llall. Mae ei hwyneb yn galed, yn greulon hyd yn oed. Enw gwreiddiol y gwaith, sydd bellach yn cael ei alw’n ‘Trachwant’ [Avarice], oedd ‘Ysbryd yr Ymddiriedolaethau’, ac fwy na thebyg ei fod yn sylwebaeth wleidyddol ar Banig Bancwyr America ym 1907, argyfwng rhyngwladol tebyg i’r chwalfa ariannol fwy diweddar yn 2007-09. Cafodd fersiwn plastr ei ddangos yn y Salon ym Mharis ym 1908, lle dangoswyd edmygedd amdano, a pheth syndod mai gwaith artist benywaidd oedd hwn. Dynion oedd yn gyfrifol bron yn llwyr am greu cerfluniau ar y pryd. Roedd Downing ymhlith grŵp o fenywod a ddaeth i’r amlwg er gwaethaf y rhwystrau a roddwyd yn eu ffordd. Yma mae Downing yn defnyddio’r corff benywaidd noeth – pwnc annisgwyl ynddo’i hun i artist benywaidd yn y cyfnod hwn – i wneud datganiad gwleidyddol beiddgar. Mae’n dangos defnydd Downing o gelf i ymgysylltu’n weithredol â gwleidyddiaeth gyfoes, ei herfeiddiad o rolau rhywedd penodol, ac fe’i cynhyrchwyd cyn iddi ddechrau ymgyrchu gyda’r swffragetiaid gydag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (WSPU).
WA_SC4.1
Pwnc
Rhif yr Eitem
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.