Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Painting
Evans, Anthony (Artist a darlunydd (ganed 1948). Yn wreiddiol o Cross Hands, mae'n byw a gweithio yng Nghaerdydd ble roedd ymhlith sefydlwyr cwmni Arlunwyr yr Hen Lyfrgell ac Oriel Canfas yn Nghreganna. Ar ôl mynychu Coleg y Drindod Caerfyrddin, bu'n gweithio fel athro celf am nifer o flynyddoedd, cyn sefydlu ei hun fel artist llawn amser ym 1990 / Artist and illustrator (born 1948). Originally from Cross Hands, he lives and works in Cardiff where he co-established the Old Library Artists and Oriel Canfas in Canton. After attending Trinity College Carmarthen, he worked for several years as a teacher before becoming a full-time artist in 1990.)
Darlun a wnaed gan Anthony Evans fel ymateb i drychineb Aberfan ym 1966. Roedd yn artist yn ei arddegau ar y pryd.
"Gwnaethpwyd y darlun yn syth wedi'r digwyddiad. Roeddwn hefyd yn byw mewn pentre glofaol, sef Cross Hands, ac yr olygfa oedd 'da fi pob bore oedd tip gwastraff anferthol. Roedd fy nhad yn lowr yn y Tymbl. Mae'r ffeithiau hynny'n berthnasol oherwydd roeddwn yn medru uniaethu gyda'r erchylltra. Fe ddefnyddies fy hoff gyfrwng ar y pryd, sef inciau lliw ac inc india. Cafodd y llun ei wneud heb unrhyw fraslunio paratoadol ac o fewn byr o amser. Roedd yn ymateb hollol emosiynol a theimladwy." Anthony Evans, 2021.
Pwnc
Bywyd Gwerin
Rhif yr Eitem
F2021.69.9
Creu/Cynhyrchu
Evans, Anthony
Dyddiad: 1966
Derbyniad
Donation, 23/11/2021
Mesuriadau
Deunydd
ink
papur
Lleoliad
In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.