Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Heinrici hot-air external combustion engine
Mae'r injan aer-poeth wedi diflannu'n llwyr erbyn hyn fel injan bob-dydd ond fe'i defnyddid at waith technolegol uwch a thra arbennig. Mae'n fwy cymhleth na'r injan stêm. Fe'i dyfeisiwyd yn 1816 ac fe'i gweithiwyd yn llwyddiannus gan Albanwr, Robert Stirling. Injan danio allanol yw hi. Llosgir y tanwydd y tu allan i'r silindr ac mae modd rhedeg yr injan ar bron unrhyw ddefnydd y gellir ei losgi. Er mai ychydig o farchnerth y gallai'r injan aer-poeth fwyaf ei maint ei gynhyrchu fe'i datblygwyd, a bu bri mawr arni yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Defnyddid y math hwn o injan yn bennaf at bwmpio cyflenwadau o ddŵr i dai, neu ar gyfer cynhyrchu trydan mewn ardaloedd gwledig. Fe'i defnyddiwyd i gyflawni nifer o dasgau —yn amrywio o ganu clychau ffôn, gyrru dril deintydd a phwmpio aer i weithio organ mewn eglwys. Gellid fod wedi defnyddio'r injan aer-poeth fechan hon at unrhyw un o'r dibenion hyn. Gyda dyfodiad y motor trydan a'r injan olew nid oedd bellach fawr o ddefnydd iddi. Serch hynny, mae yna rai pobi heddiw sy'n poeni am gyflwr yr amgylchedd yn ymddiddori ynddi am ei bod yn rhedeg heb wneud sŵn bron ac yn ddyfais nad yw'n difwyno'r amgylchedd.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984