Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Aveling Barford steam roller, 1946 - ECT 352
Er bod y stêm-roler wedi ei ddisodli gan injan ddiesel ers blynyddoedd, cyfeirir at bob peiriant o'r fath fel stêm-roler. Cafodd yr enghraifft a ddangosir yma ei wneud gan Aveling-Barford o Grantham yn 1948 a'i adeiladu dan gontract gan Vickers-Armstrong yn Newcastle. Credir bod Cyngor Dosbarth Trefol Y Rhondda wedi ei brynu'n newydd a threuliodd y gweddill o'i ddyddiau gwaith yng nghymoedd Y Rhondda. Dyma un o'r olaf o'i fath i gael ei wneud yn y wlad hon. Danfonwyd y rhan fwyaf o'r rhai a wnaed yr un adeg ag ef i wledydd tramor. Aeth y rhan fwyaf i'r India, rhai i Thailand ac eraill i Indonesia lle roedd modd torri coed wrth ymyl y ffordd i'w fwydo. Mae'r model arbennig hwn yn anarferol am fod ganddo roliau ôl a blaen sy'n wag y tu fewn. Fe'u llenwid â dŵr os oedd angen balast ychwanegol. Gwnaed llawer o waith argyweirio ar y roler yng ngweithdy'r Amgueddfa yn 1980 ac fe'i adferwyd i'w lifrai Rhondda gwreiddiol. Yn briodol iawn gwnaeth ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf yn Y Porth. (Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984).